Skip to content

Y picnic perffaith yng Nghymru

Teulu yn eistedd ar flanced ac yn cael picnic yn y Cymin, Sir Fynwy. Mae plentyn yn ymestyn ei law i dderbyn fwyd oddi wrth aelod arall o’r teulu.
Teulu’n mwynhau picnic yn y Cymin | © National Trust Images/John Millar

Eisiau golygfa o’r arfordir neu gefn gwlad, neu ardd plasty neu gastell mawreddog? Fe ddowch chi o hyd i’r lle perffaith i fwyta yn yr awyr agored yn un o’r llefydd niferus rydym yn gofalu amdanynt. O barcdir coediog i derasau Eidalaidd a lawntiau eang, mwynhewch y picnic perffaith yng Nghymru.

Y picnic perffaith yng Ngogledd Cymru 

Teulu yn chwarae ar y glaswellt yn Erddig, Wrecsam, Cymru: dau blentyn bach ar ben rhiant
Teulu yn chwarae ar y glaswellt yn Erddig, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/John Millar
Gardd Bodnant, Conwy
Gydag 80 erw o erddi i’w darganfod, bydd yn rhaid i chi gael hoe rhywbryd, ac mae digon o lefydd yma i ddad-bacio’ch basged bicnic. Rhowch flanced ar lawr yn yr heulwen yn nôl yr Hen Barc, eisteddwch wrth fwrdd pren hyfryd yng Nglyn yr Ywen, neu ewch i’r ardal bicnic ar lan y llyn yn y Pen Pellaf.Ymwelwch â Gardd Bodnant
Erddig, Wrecsam
Gallwch fwynhau picnic ym Maes Parcio prydferth y Berllan, ar lannau’r pwll dŵr neu yn y Goedwig Fawr cyn i chi gyrraedd y swyddfa docynnau hyd yn oed. Yn y tiroedd, mae seddi ym Muarth y Domen, yn ardal chwarae naturiol Ffau’r Blaidd ac ar hyd yr ardd furiog, gyda blagur y gwanwyn neu ffrwythau’r hydref yn gefnlen gain i chi. Os yw hi’n braf, beth am ddod â blanced a mwynhau picnic ar y lawnt fawr?Ymwelwch ag Erddig
Castell Penrhyn a'r Ardd, Bangor
Ar ôl crwydro’r castell (sy’n dyddio o’r 19eg ganrif), yr amgueddfa rheilffordd a 60 erw o ardd a thiroedd, y lawntiau eang yw’r lle perffaith i ymlacio gyda phicnic. Mwynhewch olygfeydd godidog dros Fae Conwy ac Eryri tra bod y plantos yn rhedeg, rholio a neidio wrth eu bodd.Ymwelwch â Chastell Penrhyn a'r Ardd
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
Am bicnic urddasol, does dim unman all guro Plas Newydd, gyda’i olygfeydd o Afon Menai a chopaon Eryri. Cerddwch ling-di-long drwy’r gerddi teras addurniadol ac ymlwybrwch drwy’r ardd i ddod o hyd i’ch llecyn picnic perffaith. Fel allech weld ein gwiwerod coch yn bwyta wrth eu gorsafoedd bwydo eu hunain.Ymwelwch â Thŷ a Gardd Phlas Newydd
Porthdinllaen, Pen Llŷn
Ymlaciwch ar y tywod y tu allan i dafarn pysgotwyr hanesyddol, gan fwynhau golygfeydd a synau glan môr. Ar ôl cinio, ewch i badlo yn y dŵr neu mwynhewch daith gerdded i ddarganfod arfordir prydferth Llŷn, sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt. Neu eisteddwch, ymlaciwch a mwynhewch yr olygfa berffaith.Ymwelwch â Phorthdinllaen

Y picnic perffaith yng Nghanolbarth Cymru 

Teulu yn chwarae ar y lawnt yng Ngardd Castell Powis ym Mhowys, Cymru
Teulu yn chwarae yn yr ardd yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust Images/Chris Lacey
Castell a Gardd Powis, Y Trallwng
Fyny fry ar ochr bryn, mae’r gaer ganoloesol hon yn edrych dros erddi teras Eidalaidd a Ffrengig byd-enwog, gyda thocwaith ywen dramatig a cherfluniau clasurol. Mae digon i’ch diddanu, a digonedd o lefydd i eistedd a mwynhau picnic yn nhiroedd y castell wrth i chi gynllunio eich ymweliad neu hel meddyliau.Ymwelwch â Chastell a Gardd Powis

Y picnic perffaith yn Ne Cymru 

Teulu yn mwynhau picnic yn y Cymin, Sir Fynwy, Cymru
Teulu yn mwynhau picnic | © National Trust Images/John Millar
Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Darganfyddwch yr ardd ffurfiol a’r tiroedd coediog, wedi’u trawsnewid o’u gorffennol diwydiannol yn hafan i fyd natur. Bydd gennych ormod o ddewis ar gyfer eich picnic perffaith, gyda choetir cysgodol, dolydd eang a nentydd i’ch swyno i fwynhau tamaid yn yr awyr iach.Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Dolaucothi, Sir Gâr
Byddwch yn llawn haeddu gwledd ar ôl dilyn llwybr yr ystâd yn Nolaucothi. Bydd y daith 3 i 4 awr hon yn mynd â chi i bwynt uchaf yr ystâd, sy’n cynnig golygfeydd trawiadol, ac fe allech weld gwiwer goch neu fele’r coed ar eich taith. Fe welwch lawer o lecynnau picnic perffaith o gwmpas y maes parcio a’r mwyngloddiau hefyd, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw i ymuno â thaith o’r mwyngloddiau eu hunain.Ymwelwch â Dolaucothi
Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Mae’r gerddi 55-erw hyn yn cynnwys gardd-ystafelloedd hyfryd, gan gynnwys gardd rosod, Gardd Bompeiaidd, sawl pwll dŵr a gardd goed. Hawliwch ddarn o’r lawnt fawr i fwynhau’r arddangosfa dymhorol o welyau blodau lliwgar – y gefnlen berffaith i bicnic traddodiadol.Ymwelwch â Gerddi Dyffryn
Y Cymin, Sir Fynwy
Mae tiroedd y tŷ crwn Sioraidd rhamantaidd hwn, gyda’i hanes llyngesol, wedi bod yn boblogaidd ar gyfer picnic drwy’r oesoedd, gyda rhai gwleddodd enwog yn cael eu cynnal yma. Os nad yw’r siandelïer yn ffitio yng nghwt y car, beth am ddod â phryd a ysbrydolwyd gan yr oes a fu ac ail-greu eich profiad bwyd bonheddig eich hun?Ymwelwch â’r Cymin
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Mae’r parcdir coediog, y lawntiau eang a’r llyn yn berffaith ar gyfer dianc rhag prysurdeb y ddinas. Mae tiroedd Tredegar yn boblogaidd ar gyfer picnic a chan bobl sy’n chwilio am ennyd o heddwch ac awyr iach mewn byd prysur.Ymwelwch â Thŷ Tredegar
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

The walled garden at Penrhyn Castle and garden is covered in frost.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

A little girl decorating a wooden snowman at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru 

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

A view of the front of the red mansion house

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru 

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.