Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision
Erddig, Wrecsam, LL13 0YT
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ | 11:30 - 15:00 |
Maes parcio | 08:00 - 17:00 |
Gardd | 10:00 - 16:00 |
Parcdir | Gwawr - Cyfnos |
Bwyty | 10:00 - 16:00 |
Siop | 10:00 - 16:00 |
Maes chwarae naturiol | Ar gau |
Mae llwybr y tŷ’n cynnwys Neuadd y Gweision i lawr y grisiau, a rhai ystafelloedd i fyny’r grisiau. Oherwydd gwaith cadwraeth a chynnal a chadw pwysig, bydd y llwybr a’r ystafelloedd sydd ar agor yn amrywio drwy gydol y flwyddyn.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £11.00 | £10.00 |
Child | £5.50 | £5.00 |
Family | £27.50 | £25.00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £17.60 | £16.00 |
Child | £8.80 | £8.00 |
Family | £44.00 | £40.00 |
Mae’r llecyn parcio beics y tu allan i’r adeilad croesawu ymwelwyr. Mae rhagor o lefydd i barcio beics ar gael yn ein prif faes parcio i ymwelwyr.
Cynhelir teithiau awyr agored yn ddyddiol rhwng mis Mawrth a mis Hydref, ac ar benwythnosau yn unig ym mis Tachwedd. Noder: rydym yn dibynnu ar argaeledd gwirfoddolwyr, felly efallai na chynhelir teithiau bob dydd.
Parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a man gollwng. Toiledau hygyrch. Gellir cyrraedd y bwyty drwy lifft. Mae llawr gwaelod y tŷ yn hygyrch. Mae cadeiriau olwyn ar gael i'w benthyca.
Mae gennym lifft sy’n darparu mynediad i Fwyty Hayloft, lle mae mynediad gwastad.
Rydym gyda dau cerbyd modur personnol ar gael. Mae angen archebu o flaen llaw. Os gwelwch yn dda cysylltwch gyda'r swyddfa docynnau ar 01978 355314 i gadw lle.
Mae mynediad gwastad yn y Swyddfa Docynnau, siop a thrwy ran helaeth o’r ardd, gan eithrio dwy set fechan o risiau. Mae cerrig crynion o fewn Iard y Domen a Chwrt y Stablau. Y tu mewn i'r tŷ, mae pedwar llawr, serch hynny, y llawr gwaelod isaf yn unig sydd yn gwbl hygyrch, gyda lloriau carreg gwastad.
Nid yw systemau Sat Nav nac apiau mordwyo yn adnabod ein cod post bob amser. Yn lle hynny, rydym ni’n argymell eich bod chi’n dilyn yr arwyddion brown ar yr A525 Whitchurch Road neu'r A483. Bydd y rhain yn eich cyfeirio i adael ar gyffordd 3 trwy Rhostyllen, ac yna troi i'r dde yn Felin Puleston ar Ffordd Hafod.
Parcio: Mae ein maes parcio pob tywydd newydd yn rhad ac am ddim a 200 llath o'r brif fynedfa.
Dewch i ffwrdd yn un o'r gorsafoedd agosaf; Wrecsam Canolog (taith gerdded 1.7 milltir) neu Wrecsam Cyffredinol (taith gerdded 1.9 milltir). Cerddwch ar hyd llwybr troed ar Ffordd Erddig.
Mae sawl llwybr bws Arriva y gallwch chi eu defnyddio; Llwybr 2 o Groesoswallt a thrwy Gefn Mawr i Wrecsam; Llwybr 4 o Benycae; a Llwybr 5 o Langollen. Dewch oddi ar y bws yn Felin Puleston, Rhostyllen a cherddwch filltir trwy Barc Gwledig Erddig. Argymhellir esgidiau cerdded ar ddiwrnodau gwlyb. Gallwch edrych ar yr amserlenni ar www.arrivabus.co.uk.
Mae gennym nod Good Journey am groesawu ymwelwyr heb geir. Teithiwch mewn ffordd fwy gwyrdd a mwynhewch ddiod boeth am ddim ar ôl cyrraedd ar drên neu mewn bws, gyda thocyn trên neu fws dilys, neu ar feic. Ar ôl cyrraedd, casglwch eich taleb diod am ddim o’r Ganolfan Croesawu Ymwelwyr (Diodydd maint arferol yn unig, gan eithrio siocled poeth moethus).
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.
Popeth sydd angen i chi ei wybod am drefnu ymweliad grŵp â'r tŷ, yr ardd a'r parcdir.
Neuadd Erddig, plasty o ddiwedd yr 17eg ganrif a achubwyd rhag dirywio’n llwyr yn y 1970au.
Gardd furiog ffurfiol restredig Gradd 1. Mae wedi’i hadfer, yn dyddio o’r 18fed ganrif ac wedi’i hysbrydoli gan yr Iseldiroedd.
Goroeswyr prin o ystâd weithiol sy’n cynnwys Siop Saer, Gefail Gof, Melin Lifio a Stablau.
Ystâd 1,200 erw gyda nodweddion hanesyddol ac amrywiaeth o lwybrau cerdded â chodau lliw.
Ardal chwarae goediog eang, yn swatio yn y Goedwig Fawr, gyda siglen raff, cerrig camu pren ac ardal adeiladu den.
Bwyty’r Taflod, sy’n cynnig bwyd a diod poeth ac oer, hufen iâ, cacennau a the prynhawn. Parlwr Tymhorol a Gardd De.
Siop yn gwerthu rhoddion, cynnyrch lleol a phlanhigion. Siop lyfrau ail-law yn llawn llyfrau poblogaidd.
Lapiwch yn gynnes a dewch â’ch teulu i Erddig y gaeaf hwn. Darganfyddwch erddi rhewllyd, erwau o barcdiroedd a phlasty Cymreig sydd wedi’i addurno’n hardd ac yn llawn hud tymhorol.
Camwch i mewn i hud y Nadolig yn Erddig, lle bydd y tŷ wedi'i addurno'n hardd, wedi'i ysbrydoli gan y gerdd, "'Twas the Night Before Christmas."
Diddanu pawb gyda diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn Erddig. Gydag erwau o barcdir, ardal chwarae naturiol a gweithgareddau tymhorol.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.
Mwynhewch daith hamddenol o gwmpas parcdir Erddig ar y daith gylchol hon. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.
Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.
Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.
Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
At the top of Offa’s Dyke this 1930s villa is in a great spot for exploring nearby Chirk Castle.
Explore the grounds of a 700 year-old castle when you stay in this traditional Welsh cottage.
Close to Chirk Castle with walking trails all around, this pretty stone cottage has an enclosed garden.
Create some magical memories with your family and join Father Christmas for breakfast in our Hayloft restaurant.
Mae Erddig, sydd wedi’i leoli ar darren ddramatig uwchben afon droellog Clywedog, yn olrhain perthynas teulu bonheddig â'i weision am dros 250 o flynyddoedd.
Yn y tŷ, mae casgliad helaeth o bortreadau ac ystafelloedd sydd wedi’u gwarchod yn ofalus yn cyfleu bywydau gweision ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac mae’r ystafelloedd i fyny’r grisiau yn drysorfa o ddodrefn, tecstilau a phapur wal coeth. Mae’r ardd y tu allan, sy’n dyddio’n ôl i'r 18fed ganrif, wedi’i hadfer yn llawn, gyda choed ffrwythau a dyfir yn fwriadol ar ffurf neilltuol, borderi blodau blynyddol afieithus, llwyni leim wedi’u plethu a chasgliad o eiddew sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae’r parc pleser 486-hectar (1,200-acer) wedi’i dirlunio, a ddyluniwyd gan William Emes, yn hafan o heddwch a harddwch naturiol, ac yn fangre berffaith am bicnic ar lan yr afon. Dewch i ddarganfod y rhaeadr silindrig 'cwpan a soser' neu archwiliwch wrthglawdd y castell mwnt a beili Normanaidd. Wrth gerdded trwy’r ystâd, cewch flas ar darddiad cynnar Wrecsam yn ogystal â phrofi technoleg y dirwedd a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif. O’ch amgylch, mae tenantiaid amaethyddol yn parhau i weithio yn nhraddodiad eu hynafiaid.
Mae Erddig yn lleoliad i ddarganfod hen atgofion a chreu rhai newydd. 'Where fragrance, peace and beauty reign, Farewell! But welcome here again.' - Philip Yorke II
Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.
Pam bod y teulu Yorke yn coffau eu staff mewn lluniau a cherddi? Dysgwch am ddiwrnod ym mywydau’r gweision a’r morynion a gweld sut y gwnaeth un wraig cadw tŷ orfod mynd o flaen ei gwell.
Dysgwch sut y gwnaeth y Pen Garddwr Mike Snowden ddatgelu ac adfer gogoniant gardd Erddig, trwy edrych ar gynlluniau a darllen y cliwiau ar y tir.
Ers talwm, câi Gwely Swyddogol Erddig ei gadw ar gyfer gwesteion mwyaf breintiedig y cartref. Mae prosiect adfer a chadwraeth Erddig yn cynnig cyfle prin i ymwelwyr weld manylion cywrain y gwely – yr unig bobl a arferai weld y manylion hyn o’r blaen oedd y rhai a oedd yn ddigon lwcus i gysgu yn y gwely.
Mae gan Erddig un o'r casgliadau mwyaf o eitemau o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfan. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.
Gwyddom fod mynediad i fyd natur a’r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant ac iechyd meddwl pobl, ac rydym yn frwd dros greu cyfleoedd a phrofiadau sy’n helpu pawb yn ein cymuned leol i elwa ar bopeth sydd gan ystâd Erddig i’w gynnig.
Darllenwch i weld pam bod cadw Erddig yn y tywyllwch yn un o’r ffyrdd pwysicaf i ddiogelu’r ystafelloedd a’r dodrefn.
Dysgwch fwy am ein hartist preswyl newydd, Jenny Cashmore, sy’n archwilio sut y gall cysylltu’n greadigol â natur gefnogi ein llesiant
Rydym yn falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer un o goedlannau coffa newydd Cymru a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Pandemig Covid-19.
O’r tŷ hanesyddol i’r ardd furiog o’r 18fed ganrif a’r parcdir, mae amrywiaeth eang o swyddi i wirfoddolwyr yn nhîm cyfeillgar Erddig.
Mae gorchudd prin o wely 300 oed bellach yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn Neuadd a Gardd Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Wrecsam yn dilyn gwaith cadwraeth ac ymchwil sydd wedi datgelu manylion oedd gynt yn anhysbys am ei hanes, ei gyfansoddiad a’r gwaith gwnïo adeg y rhyfel a’i achubodd rhag cael ei ddifetha.
Am bron i 200 mlynedd, cofnodwyd staff a gweision annwyl y cartref yn Erddig ger Wrecsam mewn casgliad unigryw o bortreadau, ffotograffau a phenillion. Nawr, am y tro cyntaf ers dros ganrif, mae portread newydd yn ymuno dros dro â’r arddangosfa hanesyddol i nodi ymddeoliad Prif Arddwr hirhoedlog y stad.
Mae’r gwaith blynyddol o blygu 168 o goed pisgwydd yn Erddig, gogledd Cymru ar waith ac amcangyfrifir y bydd yn cymryd cyfanswm o 65,000 toriad i dîm bach o staff a gwirfoddolwyr i’w gwblhau, yn barod iddynt ffrwydro’n llawn dail erbyn canol mis Mai.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu cynllun un o goedlannau coffa newydd Cymru a leolir yn Erddig ger Wrecsam. Estynnir gwahoddiad i bobl helpu i blannu coed yn y goedlan, a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig Covid-19.
Ymwelodd Ei Fawrhydi y Brenin ag Erddig yn Wrecsam, ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i blannu glasbren derw prin er cof am ei fam, y Frenhines Elizabeth II.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.